Dunn & Ellis Cyf
Cyfeiriadur Staff (Porthmadog)
Cyfrifwyr Cymwysedig
Clive T. Brown B.Sc(Econ), FCA
Yn Gymrawd i Sefydliad y Cyfrifwyr Siartredig ers 1975, mae Clive yn arbenigo ar faterion cyfrifyddu ac archwilio cwmnïau cyfyngedig – boed yn gwmni cyfyngedig drwy gyfranddaliadau neu warant, neu'n gwmni sy'n adrodd ar ran Elusennau. Clive sydd hefyd yn gyfrifol am ein cleientiaid ym maes iechyd.
Gyda Deloitte ym Manceinion y cafodd Clive ei hyfforddiant, a chafodd brofiad o'r meysydd bancio, cyllid ac yswiriant gyda Lloyds TSB a D.C Gardner & Co Ltd.
Paul C. Jones B.Sc, FCCA
Graddiodd Paul o Brifysgol Cymru, Bangor yn 1999, gyda gradd anrhydedd mewn Mathemateg.
Dychwelydd Paul i'w gynefin yng Nghriccieth yn 2001, ar ôl bod yn gweithio fel cyfrifydd i gwmni rheoli dyledion ym Manceinion.
Bu Paul yn gweithio i gwpl o bractisau Cyfrifwyr Siartredig lleol, lle'r oedd yn gyfrifol am yr adran Treth Bersonol ar gyfer ei gyflogwr blaenorol, cyn ymuno â Dunn & Ellis Cyf ym mis Ebrill 2006.
Ffion Ll. Morris B.Sc, FCCA, ATT
Ymunodd Ffion â Dunn & Ellis Cyf yn 2015, ar ôl bod yn gweithio mewn diwydiant ac yn y maes bancio.
Graddiodd Ffion o Brifysgol Caerdydd yn 2005 gyda gradd mewn Cyfrifeg, a daeth yn gymwys i fod yn aelod o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) yn 2012, cyn mynd ymlaen i ymuno â'r Gymdeithas yn 2015. Daeth Ffion hefyd yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) yn 2018. Mae hi'n aelod cymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ers mis Mai 2020.
Huw T. Wilcox B.Sc(Hons), FCCA, ACA
Ymunodd Huw â Dunn & Ellis Cyf yn 2015, ar ôl cael profiad yn gweithio gyda phractis cyfrifeg arall. Mae Huw yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ers 2019. Daeth yn aelod cymrawd o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig ym Mehefin 2024. Daeth Huw yn aelod o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) ym mis Rhagfyr 2024.
Alaw Fflur Hughes B.Sc(Hons), ATT, CTA, ACCA
Ymunodd Alaw â Dunn & Ellis Cyf yn 2016, ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg; ers hynny mae wedi ennill cymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), a daeth yn aelod llawn o’r Sefydliad Trethu Siartredig (CIOT) yn 2019. Mae Alaw yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ers 2021.
Angharad Mai Morgan FCA, MAAT
Ymunodd Angharad â Dunn & Ellis Cyf yn 2020, ar ôl bod yn gweithio i gwpl o bractisau cyfrifeg eraill yn yr ardal.
Derbyniodd Angharad gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Siartredig (ACA) yn 2013, ac mae hi'n gymrawd o Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW) ers Mai 2023. Mae Angharad hefyd yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT).
Tomos O. Ll. Williams ACCA, MAAT
tomoswilliams@dunnandellis.co.uk
Ymunodd Tomos â Dunn & Ellis Cyf yn 2016. Derbyniodd gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) yn 2019, cyn dod yn aelod o'r Gymdeithas yn 2022. Cwblhaodd Tomos ei gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ym mis Hydref 2023, a daeth yn aelod ym mis Medi 2024.
Y Dderbynfa
Delyth Williams
Ymunodd Delyth â Dunn & Ellis Cyf yn 2003, ac mae hi'n gweithio yn ein derbynfa.
April Pratt
Ymunodd April â Dunn & Ellis Cyf yn 2023, ac mae hi'n gweithio yn ein derbynfa.
Gweinyddu'r Swyddfa a Gwasanaethau Talu wrth Ennill (PAYE)
Einir Lloyd Smith FMAAT, AATQB
Ymunodd Einir â'r practis yn 2001 ar ôl cwblhau ei hastudiaethau Lefel A, ac mae'n Aelod Cymrawd o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT). Einir yw Rheolwr y Practis, ac mae'n delio â'r holl faterion swyddfa mewnol.
Michelle Davies
Ymunodd Michelle â Dunn & Ellis Cyf yn 2015 fel Rheolwr y Gyflogres.
Bethan Carter
Ymunodd Bethan â Dunn & Ellis Cyf yn 2018; mae hi'n gweithio yn adran y Gyflogres. Bethan sydd hefyd yn delio â holl faterion Ysgrifenyddol Cwmnїau.
Olwen Ll. Jones
Ymunodd Olwen â Dunn & Ellis Cyf yn 1999, ar ôl cael profiad gyda chwmni cyfrifeg arall. Mae gan Olwen gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), ac mae'n gweithio ym maes paratoi cyfrifon ers blynyddoedd lawer.
Cyfrifyddu, Treth, Cadw Cyfrifon a Threth ar Werth (VAT)
R. Eifion Jones
Eifion yw'r aelod o'r personél cyfrifyddu sydd wedi bod gyda ni hiraf, gan iddo ymuno â'r practis yn 1981.
Christopher Morrow
chris.morrow@dunnandellis.co.uk
Yn dynn ar sodlau Eifion y mae Chris, a ymunodd â'r practis yn 1990, ac mae yntau hefyd yn aelod o'r personél cyfrifyddu. Mae Chris hefyd yn paratoi ffurflenni Treth ar Werth (VAT) nifer o'n cleientiaid.
Karen W Lewis
Ymunodd Karen â'r practis yn 1994 fel Cynorthwyydd Cyfrifon, yn syth ar ôl cwblhau ei chwrs Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Menai.
Iwan Evans
Mae Iwan gyda ni ers 1998, ar ôl cael profiad gyda chwmni cyfrifeg arall yn yr ardal.
Glesni Fflur Jones B.Sc(Hons), ATT
Ymunodd Glesni â Dunn & Ellis Cyf yn 2019, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd ail ddosbarth uwch mewn Cyfrifeg a Chyllid. Mae gan Glesni gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), ac mae'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ar hyn o bryd.
Owain Sion Roberts
Ymunodd Owain â'n practis yn 2019, ar ôl cael profiad gyda ni drwy amryw o gyfnodau ar leoliad gwaith. Mae Owain yn gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.
Sian Elen Jones B.Sc(Hons)
Ymunodd Sian â Dunn & Ellis Cyf yn 2020, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Cafodd Sian brofiad o weithio mewn practis cyfrifeg arall yn yr ardal cyn ymuno â ni. Mae Sian yn gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd, gan ddilyn hynny â chymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).
Jessica Williams B.Sc,
Ymunodd Jessica â Dunn & Ellis Cyf ym mis Hydref 2021, ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid. Mae Jessica yn gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) ar hyn o bryd.
Morgan Roberts B.Sc, M.Sc
Ymunodd Morgan â Dunn & Ellis Cyf ym mis Mawrth 2022, ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid, cyn mynd ymlaen i Brifysgol De Cymru i wneud gradd Meistr mewn Cyfrifeg Broffesiynol. Mae Morgan wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) ar hyn o bryd, gan ddilyn hynny â chymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA).
Erin Fychan Roberts
Ymunodd Erin â Dunn & Ellis Cyf ym mis Tachwedd 2022 fel Cynorthwyydd Cyfrifon. Mae Erin wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.
Cadi Bigwood
Ymunodd Cadi â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon. Mae Cadi wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.
Llinos Hamer-Williams
Ymunodd Llinos â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon.
Emma John
Ymunodd Emma â Dunn & Ellis Cyf ym mis Hydref 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon.
Siôr Llewelyn Jones
Ymunodd Siôr â Dunn & Ellis Cyf ym mis Rhagfyr 2023 ar ôl cwblhau ei arholiadau TGAU. Mae Siôr wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.
Caio Roberts
Ymunodd Caio â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2024. Mae Caio wrthi'n gweithio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT) ar hyn o bryd.