Dunn & Ellis Cyf
Cyfeiriadur Staff
Cyfrifwyr Cymwysedig
Guto Davies B.Sc(Hons), ATT, CTA
Ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth, ymunodd Guto â Dunn & Ellis Cyf yn 2012 fel Cynorthwyydd Cyfrifon. Mae Guto yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), a daeth yn aelod llawn o'r Sefydliad Siartredig Trethu (CIOT) yn 2018.
Mari Eurwen Hughes B.Sc(Hons), ATT, ACCA
Ymunodd Mari â'n practis yn 2017 ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Mathemateg; mae hi bellach yn aelod o Gymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), a daeth yn aelod llawn o Gymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) yn 2022.
Cyfrifyddu, Treth, Cadw Cyfrifon a Threth ar Werth (VAT)
James Ashfield B.A.(Hons)
Ymunodd James â'r practis ym mis Mai 2012, ar ôl astudio Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Bangor a threulio cyfnod gyda chwmni arall o gyfrifwyr.
Mae James yn rhannol-gymwysedig (ACCA).
Catrin Mather B.Sc(Hons), MA, ATT
Ymunodd Catrin â ni yn 2020 ar ôl graddio o Brifysgol Caerefrog gyda gradd mewn Seicoleg, a derbyn gradd Meistr gyda rhagoriaeth gan Ysgol Busnes Prifysgol Bangor. Mae hi'n aelod o Gymdeithas y Technegwyr Treth (ATT), ac yn astudio tuag at gymhwyster Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA) ar hyn o bryd.
Nicola Jones
Ymunodd Nicola â Dunn & Ellis Cyf ym mis Chwefror 2021. Mae ganddi 32 mlynedd o brofiad o weithio gyda phractisau Cyfrifeg eraill.
Dawn Williamson B.Sc(Hons) MAAT, CAT, CERT(CON)SCI
Ymunodd Dawn â Dunn & Ellis Cyf yn 2021, ar ôl bod yn gweithio i Hughes Parry & Co. Mae hi'n aelod o Gymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu (AAT), yn Dechnegydd Cyfrifyddu Ardystiedig ac yn rhannol-gymwysedig (ACCA).
Mae Dawn hefyd yn Uchel Feistres Ffederasiwn Rhyngwladol Gwyddbwyll o Bell (ICCF).
Paula Jones AICB, PM.Dip
Ymunodd Paula â Dunn & Ellis Cyf yn 2023, i fod yn aelod o'n hadran Treth ar Werth (VAT) a Chadw Cyfrifon. Mae gan Paula 30 mlynedd o brofiad fel ceidwad llyfrau ac mae'n aelod cyswllt o Sefydliad y Llyfrifwyr Ardystiedig (ICB). Ym mis Gorffennaf 2024, cwblhaodd Paula ei chymhwyster Diploma Rheoli'r Gyflogres.
Jack Hughes B.Sc (Hons)
jack.hughes@dunnandellis.co.uk
Ymunodd Jack â Dunn & Ellis Cyf ym mis Medi 2023. Ar ôl graddio o Brifysgol Bangor gyda gradd mewn Cyfrifeg a Chyllid, cafodd Jack brofiad o weithio mewn practis cyfrifeg arall yn yr ardal cyn ymuno â ni. Mae Jack yn gweithio tuag at ei gymhwyster Cymdeithas y Technegwyr Treth (ATT) ar hyn o bryd.