Dunn & Ellis Cyf
Cyfrifwyr a Chynghorwyr Treth
Cwmni o Gyfrifwyr Siartredig ac Ymarferwyr Treth Siartredig ym Mhorthmadog yw Dunn & Ellis Cyf, ac rydym yn gweithio gyda chleientiaid ar hyd a lled Gogledd Cymru.
Mae Dunn & Ellis Cyf yn mynd ati bob amser i ddarparu gwasanaeth costeffeithiol sy'n cynnig gwerth am arian, ac rydym yn adolygu ac yn diweddaru ein harbenigedd yn gyson.
Rydym wedi ymrwymo i gynnig cyngor prydlon ynghylch unrhyw newidiadau diweddar yn neddfau treth y Deyrnas Unedig, ac i ddefnyddio'r dechnoleg wybodaeth ddiweddaraf ar ffurf meddalwedd cyfrifeg a threth.
Rydym yn falch o fod yn bractis cyfeillgar ac agos-atoch chi, sy'n cynnig cyngor a gwasanaeth o'r safon uchaf i'n cleientiaid.
Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth mae croeso i chi gysylltu â ni, neu gallwch gymryd cip ar yr wybodaeth helaeth sydd ar gael ar ein gwefan.